BBC Radio Cymru
Beti a'i Phobol
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Bezoek zeker de website van de podcast en steun de maker: www.bbc.co.uk
Auteur
BBC Radio Cymru
Categorie
Website van de podcast
Nieuwste aflevering
20 sep. 2026
Waar luisteren?
Podcasts in de app Replaio Radio Binnenkort beschikbaarPodcasts komen binnenkort naar de app. Installeer nu en zie als eerste een compleet nieuwe kijk op podcasts
Afleveringen
Elin Jones 08.10.2017 50:17
Beti George yn sgwrsio gydag Elin Jones. Ar ôl cael ei magu ar fferm yn Llanwnnen, aeth i Gaerdydd i astudio economeg. Doedd gwleidyddiaeth ddim o ddiddordeb mawr iddi pan yn ifanc, ond roedd buddugoliaeth Cynog Dafis yn etholiad cyffredinol 1992 yn ysbrydoliaeth. Ddwy flynedd wedi refferendwm 1997 o blaid datganoli, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad Ceredigion, a hynny yn enw Plaid Cymru. Mae u...
Hywel Davies 01.10.2017 50:40
Beti George yn holi Hywel Davies. Wedi'i eni ym Mhontarddulais, symudodd y teulu i'r gogledd-ddwyrain pan oedd ond yn 18 mis oed, cyn symud yn ôl i'r de flynyddoedd yn ddiweddarach. Ar ôl blynyddoedd o fod yn newyddiadurwr yng Nghymru, gan gynnwys gweithio i HTV yng Nghaerdydd, symudodd i America. O'r wlad honno y daw ei wraig, Charlotte, ond roedd hi wedi dysgu Cymraeg cyn i'r ddau gwrdd. Yn ôl y...
Eleri Fôn Roberts 24.09.2017 50:35
Beti George yn sgwrsio gydag Eleri Fôn Roberts o Lanfairpwll. Yn blentyn swil dros ben, cafodd ei hanfon i ysgol breifat i fagu hyder, ac mae'n diolch i'w rhieni am y penderfyniad hwnnw. Ar ôl colli ei thad, ei brawd a'i darpar ŵr o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd, aeth i Henffordd i ddechrau o'r newydd. Bu'n gweithio fel nyrs yng Nghaeredin hefyd, ond daeth yn ôl i ogledd Cymru a dechrau cano...
Ian Cottrell 17.09.2017 49:49
Beti George yn holi Ian Cottrell. Ar ôl dechrau ei yrfa fel athro yn Aberdâr, daeth yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu ac aelod o'r grŵp Diffiniad. Mae cerddoriaeth yn dal yn rhan bwysig iawn o'i fywyd, a does ond angen mynd i Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd am brawf o hynny. Yno, mae'n un o DJs Dirty Pop pob nos Sadwrn.
Sian Northey 10.09.2017 47:36
Beti George yn sgwrsio gyda Sian Northey. Wedi'i magu yn Nhrawsfynydd, mae bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth. Dod yn filfeddyg oedd ei nod ar un adeg, er bod athrawon Cymraeg a Saesneg yn anhapus iddi ddewis dilyn y gwyddorau, ond gydag amser daeth llenyddiaeth yn ôl i'w bywyd. Wedi sawl swydd, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio ar ei...
Wyn Bowen Harries 03.09.2017 50:01
Beti George yn sgwrsio gyda'r actor Wyn Bowen Harries. Wrth astudio biocemeg yn Aberystwyth, roedd yn treulio llawer iawn o'i amser yn Theatr y Werin, ac aeth i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i ddilyn cwrs ôl-radd. Gyda dyfodiad S4C, daeth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y sianel. Mae ei waith ar hyd y blynyddoedd yn cynnwys rhannau yn Dinas, Rownd a Rownd, Pengelli a 35 Diwrnod, ond y ffilm Gad...
Albert Francis 27.08.2017 34:44
Beti George yn holi Albert Francis, cyn-ofalwr ym Mharc yr Arfau a Gerddi Soffia. Beti George chats to Albert Francis, former groundsman at Cardiff Arms Park and Sophia Gardens.
John Grisdale 15.08.2017 50:05
Beti George yn sgwrsio gyda John Grisdale. Wedi'i eni ym Mangor a'i fagu ym Mhenisarwaun, symudodd i Gaernarfon pan oedd ond yn blentyn bach. Ar ôl gyrfa ym maes addysg, gan gynnwys dod yn bennaeth Ysgol Brynrefail yn Llanrug yn y 1990au, cafodd swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio ar gynllun cyswllt rhwng yr heddlu a holl ysgolion Cymru. Mae bellach wedi ymddeol, ond yn dal yn aelod gwirfo...
Tony Bianchi 13.08.2017 39:15
Beti George yn sgwrsio gyda'r llenor Tony Bianchi, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015. Beti George interviews litterateur Tony Bianchi.
Irfon Williams 30.07.2017 40:39
Beti George yn holi Irfon Williams o Fangor wrth iddo frwydro'n erbyn canser ac ymgyrchu er mwyn helpu eraill. Beti George interviews cancer patient and campaigner Irfon Williams.
Vivian Parry Williams 23.07.2017 48:44
Beti George yn sgwrsio â Vivian Parry Willams. Yn enedigol o Benmachno, mae bellach yn byw ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn awdur llyfrau fel Plwyf Penmachno ac Elis O'r Nant - Cynrychiolydd y Werin.
Meg Elis 17.07.2017 47:43
Beti George yn sgwrsio â Meg Elis. Yn adnabyddus fel gwleidydd, cyfieithydd ac awdur, mae gan y ddwy ddigonedd i'w drafod. Beti George chats to Meg Elis.
Sara Powys 13.07.2017 46:19
Beti George yn sgwrsio â Sara Powys. Wedi cyfnodau yn gweithio ym meysydd y diwydiant ymwelwyr a iechyd meddwl, hi yw perchennog Coffi Cwtch yng Nghaerdydd.
Dafydd Dafis 25.06.2017 34:12
Beti George yn holi Dafydd Dafis mewn rhaglen a gafodd ei darlledu'n wreiddiol yn 1985. Wedi'r sgwrs, yn deyrnged i'r diweddar actor a cherddor, mae cyfle i glywed pedair o'r caneuon a gafodd eu recordio ganddo'n ystod ei yrfa.
Marian Wyn Jones 18.06.2017 50:14
Beti George yn sgwrsio â Marian Wyn Jones, cyn-bennaeth y BBC yng ngogledd Cymru sy'n aelod o sawl corff cyhoeddus ac ymddiriedolaeth elusennol. Beti chats to Marian Wyn Jones.
Rhodri Morgan 11.06.2017 40:53
Beti George yn holi Rhodri Morgan, cyn-brif weinidog Cymru. Beti George interviews Rhodri Morgan, the former first minister of Wales.
Gwyneth Glyn 02.06.2017 50:20
Beti George yn holi'r bardd a'r gantores Gwyneth Glyn. Beti George chats to poet and and singer Gwyneth Glyn,.
Helen Greenwood 28.05.2017 50:07
Beti George yn sgwrsio â Helen Greenwood wrth iddi ymddeol o Urdd Gobaith Cymru wedi chwarter canrif o weithio i'r mudiad yn y de-ddwyrain.
Derith Rhisiart 21.05.2017 48:35
Beti George yn holi'r seicotherapydd Derith Rhisiart. Beti George chats to psychotherapist Derith Rhisiart.
Gwilym Prys-Davies 14.05.2017 52:54
Beti George yn sgwrsio â'r Arglwydd Prys-Davies, gwleidydd a chyfreithiwr a ymgyrchodd gydol ei oes dros ddatganoli. Fel aelod o'r Blaid Lafur y gwnaeth hynny'n bennaf, wedi iddo adael Plaid Cymru ar ôl methiant ymgais grŵp o bobl i ddylanwadu ar wleidyddiaeth y blaid honno. Yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, daeth yn llefarydd yr wrthblaid ar Gymru, iechyd a Gogledd Iwerddon. Mae hon yn fersiwn fyrrach o...
Bryn Fôn 13.05.2017 49:18
Beti George yn holi Bryn Fôn, un o actorion a chantorion mwyaf poblogaidd Cymru. Beti George chats to Bryn Fôn, one of Wales's most popular actors and singers.
Beti a'i Phobol: Bryn Fôn - 29/01/1991 10.04.2017 37:41
Cyfle i wrando eto ar Beti George yn sgwrsio gyda Bryn Fôn nôl yn 1991.
Rosa Hunt 06.04.2017 1:48
Beti George yn holi'r Parchedig Rosa Hunt, gweinidog ym Mhentre'r Eglwys a gafodd ei geni a'i magu yn Malta. Mae'n trafod ei chefndir teuluol, ei dyddiau yng Nghaergrawnt a Ffrainc, a nawr Cymru.
Kevin 'Kev Bach' Williams 30.03.2017 41:40
Beti George yn holi Kevin 'Kev Bach' Williams, DJ radio masnachol yng ngogledd Cymru. Beti George chats to Kevin 'Kev Bach' Williams, a commercial radio DJ in north Wales.
Dennis Davies 23.03.2017 50:06
Beti George yn holi Dennis Davies, un o hoelion wyth ardal Llanrwst sy'n gyfaill yr eisteddfodau bychain a'r gwyliau cenedlaethol. Beti George chats to Dennis Davies from Llanrwst.
Vergelijkbare podcasts
Replaio is geen uitgever van podcasts; namen van shows, covers en audio zijn eigendom van hun makers en worden verspreid via openbare RSS-feeds